Stryd y Dyffryn, Dinbych

£80,000
  • Availability: For Sale
  • Tenure: Freehold
  • Make Enquiry
  • Floorplan
  • Floorplan
  • Floorplan
  • View Brochure

Property Summary

Eiddo helaeth pen teras wedi'i leoli mewn ardal breswyl boblogaidd yn Ninbych ac sydd o fewn mynediad hawdd i gyfoeth o amwynderau lleol yn y Dref Farchnad Hanesyddol. Mae’r eiddo sydd â chymeriad iddo ac wedi ei adeiladu o gerrig wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd yn flaenorol ond mae’n addas at ddefnydd preswyl (yn amodol ar ganiatâd cynllunio perthnasol) ac efallai o ddiddordeb i sbectrwm eang o brynwyr. Mae'r eiddo o fewn Ardal Gadwraeth Tref Dinbych ac mae wedi'i ddynodi'n Adeilad Rhestredig Gradd 2.

Llety – Llawr Gwaelod : Cyntedd mynedfa, Cyntedd, Swyddfa, Ystafell Toiled, Cegin/Storfa. Llawr Cyntaf: Pen grisiau, Swyddfa

AR WERTH TRWY DENDR ANFFURFIOL
Tendrau anffurfiol i’w dychwelyd erbyn cyn hanner dydd ar 25/10/23

Full Details

SYLWADAU CYFFREDINOL

LLEOLIAD A CHYFARWYDDIADAU
Mae'r eiddo wedi'i leoli mewn safle cyfleus o fewn pellter cerdded i ganol y dref. Mae tref farchnad Dinbych yn darparu cyfoeth o gyfleusterau gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, siopau, swyddfa bost a thafarndai ac o fewn mynediad hawdd i draffordd A55 Gogledd Cymru sy’n gyfleus ar gyfer cymudo i Gaer ac Arfordir Gogledd Cymru.

O'n swyddfa yn Ninbych ewch i lawr Stryd y Dyffryn a gellir gweld yr eiddo ar eich ochr dde, gydag arwydd gwerthu Clough & Co arno.

DISGRIFIAD
Mae’r eiddo o waliau cerrig gyda tho llechi ym meddu ar edrychiad llawn cymeriad ac wedi cael ei leoli o fewn Tref Farchnad boblogaidd Dinbych. Mae angen gwaith moderneiddio llawn ar yr eiddo ond mae ganddo'r potensial i fod yn gartref un ystafell wely dymunol iawn.

Yn fras, mae’r eiddo yn cynnwys:

CYNTEDD MYNEDFA

CYNTEDD
Gyda bocs mesurydd a llawr wedi ei garpedu

CYNTEDD
Rheiddiadur gwres canolog a llawr wedi ei garpedu

LOLFA 3.47m x 2.79m (11'4" x 9'1")
Gyda ffenestr ar ddrychiad blaen yr eiddo, rheiddiadur gwres canolog a llawr wedi ei garpedu.

YSTAFELL TOILED
Gyda toiled, basn ymolchi a llawr wedi'i lamineiddio.

CEGIN 5.10m x 1.62m (16'8" x 5'3")
Llawr pren / unedau wal, sinc dur gwrthstaen gyda thapiau, llawr wedi’i lamineiddio a rheiddiadur gwres canolog.

LLAWR CYNTAF

PEN Y GRISIAU

YSTAFELL SWYDDFA 5.88m x 5.51m (19'3" x 18'0")
Swyddfa eang iawn gyda photensial, gyda ffenestri ar ddrychiad blaen a cefn yr eiddo, boeler Worchester, rheiddiadur gwres canolog a llawr wedi ei garpedu, mynediad i groglofft

TU ALLAN
Mae'r eiddo yn cynnwys iard gaeedig yn y cefn.

GWASANAETHAU
Rydym ar ddeall bod Prif Gyflenwad Trydan, Prif Gyflenwad Dwr, Prif Gyflenwad Nwy a Draeniau yn gwasanaethu'r annedd. NID YW'R ASIANT WEDI PROFI UNRHYW WASANAETHAU, CYFARPAR NAC OFFER I'R EIDDO HWN. RHAID I BARTÏON SYDD Â DIDDORDEB FODLONI EU GOFYNION EU HUNAIN YM MHOB FFORDD (GAN GYNNWYS ARGAELEDD A CHAPASITI AC ATI) CYN YMRWYMO I BRYNU.

DALIADAETH A MEDDIANT
Rydym ar ddeall bod yr eiddo yn rhydd-ddaliadol ac yn cael ei gynnig gyda Meddiant Gwag ar ôl ei gwblhau. DYLAI DARPAR BRYNWYR DDILYSU HYN TRWY EU CYFREITHWYR EU HUNAIN YN HYN O BETH

TREFNIADAU YMWELIAD
Gellir trefnu i ymweld â’r eiddo drwy apwyntiad ymlaen llaw drwy Swyddfa yr Asiant yn Ninbych (Rhif Ffôn: 01745 812049)

DULL GWERTHU
Mae’r eiddo ar werth trwy DENDR ANFFURFIOL. Mae'r ffurflenni tendro a chyfarwyddiadau ar gael yn Clough & Co, Swyddfa Dinbych.

Dylai pob tendr gael eu gyflwyno ar y ffurflen sydd wedi’i hatodi a’i hanfon at caffael@grwpcynefin.org neu procurement@grwpcynefin.org erbyn dim hwyrach cyn hanner dydd ar 25/10/23

HAWDDFREINTIAU, FFYRDD-FREINTIAU A HAWLIAU TRAMWY
Gwerthir yr eiddo hwn yn amodol ar bob ac unrhyw hawliau, gan gynnwys hawliau tramwy, boed yn gyhoeddus neu’n breifat, golau, cymorth, draeniad, dwr a’r holl Ffyrdd-freintiau presennol ar gyfer mastiau, peilonau, cynhalbyst, ceblau, gwifrau, draeniau, cyflenwadau dwr, nwy a thrydan.; a hawliau a rhwymedigaethau eraill; lled-hawddfreintiau a chyfamodau cyfyngu; a phob Fforddfraint bresennol ar gyfer mastiau, peilonau, cynhalbyst, ceblau, gwifrau, draeniau, dwr, nwy a phibellau eraill p'un a gyfeirir atynt yn y manylion hyn ai peidio. Mae'r eiddo hefyd yn cael ei drawsgludo yn amodol ar yr holl faterion a ddatgelir yn y teitl sy'n cyd-fynd â'r Contractau Gwerthu.

CYNLLUNIO GWLAD AA THREF
Mae'r eiddo, er gwaethaf unrhyw ddisgrifiad a gynhwysir yn y manylion hyn, yn cael ei werthu yn amodol ar unrhyw Gynllun Datblygu, Gorchymyn Cadw Coed, Cynllun Cynllunio Tref, Cytundeb, Penderfyniad neu Rybudd a all fod yn bodoli neu ddod yn weithredol, a hefyd yn amodol ar unrhyw Ddarpariaeth(au) Statudol neu Is-ddeddf(au) heb rwymedigaeth ar ran y Gwerthwr neu'r Asiantau i'w nodi

CYNLLUNIAU MANYLION
Mae'r rhain wedi'u paratoi'n ofalus a chredir eu bod yn gywir ond rhaid i bartïon â diddordeb fodloni eu hunain ynghylch cywirdeb y datganiadau sydd ynddynt. Nid oes gan unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan Clough & Co, yr Asiantau, unrhyw awdurdod i wneud na rhoi unrhyw gynrychiolaeth na gwarant o gwbl mewn perthynas â'r eiddo hwn ac nid yw'r manylion hyn yn gyfystyr â chynnig na chontract.

PWYSIG
1. Mae’r Manylion hyn wedi eu paratoi yn ddidwyll i roddi golwg gyffredinol deg ar yr eiddo; gofynnwch am ragor o wybodaeth/gwiriad. 2. Ni fernir bod dim yn y Manylion hyn yn ddatganiad bod yr eiddo mewn cyflwr strwythurol da neu fel arall, na bod unrhyw wasanaethau, offer neu gyfleusterau mewn cyflwr gweithio da. Dylai prynwyr fodloni eu hunain ar faterion o'r fath cyn prynu. 3. Mae'r ffotograff(au) yn dangos rhannau penodol o'r eiddo yn unig. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod yr eiddo yn parhau i fod fel y'i dangosir yn y llun(iau). Ni ddylid gwneud unrhyw ragdybiaethau mewn perthynas â rhannau o'r eiddo na thynnwyd llun ohonynt. Gofynnwch am ragor o wybodaeth os oes angen. 4. Rhoddir unrhyw arwynebedd, mesuriadau, agweddau neu bellteroedd y cyfeirir atynt fel CANLLAW YN UNIG. Os yw manylion o'r fath yn hanfodol i brynwr, rhaid i brynwr(wyr) o'r fath ddibynnu ar eu hymholiadau eu hunain. 5. Pan wneir unrhyw gyfeiriad at Ganiatâd Cynllunio neu ddefnyddiau posibl, rhoddir gwybodaeth o'r fath gan Clough & Co yn ddidwyll. Fodd bynnag, dylai prynwyr wneud eu hymholiadau eu hunain i faterion o'r fath cyn prynu. 6. Mae disgrifiadau o'r eiddo yn oddrychol ac yn cael eu defnyddio'n ddidwyll fel barn ac NID fel datganiad o ffaith. Gwnewch ymholiadau penodol pellach i sicrhau bod ein disgrifiadau yn debygol o gyd-fynd ag unrhyw ddisgwyliadau sydd gennych o'r eiddo 7. Yn dilyn Deddfwriaeth UE/Llywodraeth, mae Clough & Co yn cadw'r hawl i ofyn am gadarnhad ffurfiol o hunaniaeth a manylion cyfeiriad gan unrhyw ddarpar brynwr yr eiddo hwn.

TREFN BRYNU
Wrth edrych ar yr eiddo hwn, os ydych yn dymuno bwrw ymlaen â phryniant arfaethedig, cadwch at y canlynol:- 1. Cyflwyno'ch cynnig cyn gynted â phosibl i CLOUGH & CO er mwyn iddynt allu cael cyfarwyddiadau eu cleient. 2. Os bydd ein cleient yn derbyn eich cynnig (yn amodol ar gontract), yna gellir cadarnhau manylion eich pryniant arfaethedig gyda’r Cyfreithwyr perthnasol.

TREFN GWERTHU
Os byddwch angen gwerthusiad marchnad o'ch eiddo eich hun heb ymrwymiad, yna cysylltwch â'n Swyddfa yn Ninbych (Ffôn: 01745 81 2049) i wneud apwyntiad i'n Rheolwr drafod eich gofynion.